
Sut beth yw gyrfa ym maes technoleg mewn gwirionedd?
I berson ifanc sy’n meddwl am ei ddyfodol, mae mwy o bosibiliadau nag erioed. Mae seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, e-chwaraeon, technoleg greadigol, MedTech, lled-ddargludyddion, technoleg ariannol, y gofod, technoleg cwantwm a llawer o feysydd eraill yn creu cyfleoedd newydd ac yn trawsnewid gyrfaoedd.
Ond weithiau, y ffordd orau o ddeall beth sy’n bosibl yw cael profiad ohono drosoch eich hun.
Fis Rhagfyr hwn, bydd Tech Pathways 2026 yn dod â mwy na 1,000 o bobl ifanc, dros 40 o bartneriaid diwydiant a dros 50 o weithdai ac arddangosiadau ynghyd ledled Cymru, ar gyfer yr hyn rydyn ni’n ei alw’n gynulliad mwyaf o dalent dechnoleg y dyfodol yng Nghymru.
Mwy na digwyddiad gyrfaoedd
Mae Tech Pathways yn ymwneud ag archwilio posibiliadau.
Bydd dysgwyr yn gallu creu eu profiad eu hunain o raglen o weithdai ymarferol, sgyrsiau, arddangosiadau a heriau, gan gwrdd â phobl sy’n gweithio ar draws sector technoleg Cymru a darganfod i ble y gallai eu diddordebau a’u sgiliau eu harwain.
Bydd cyfle iddyn nhw archwilio meysydd gan gynnwys:
Nid disgwyl i bobl ifanc wybod yn barod beth maen nhw eisiau ei wneud yw’r nod.
Y nod yw rhoi cyfle iddyn nhw roi cynnig ar rywbeth newydd, siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, ac efallai darganfod cyfle, pwnc neu yrfa nad oedden nhw wedi’i hystyried o’r blaen.
Dau ddigwyddiad. Un cyfle ledled Cymru.
De Cymru
Prifysgol De Cymru, Campws Trefforest
2 Rhagfyr 2026
Gogledd Cymru
Coleg Cambria, Campws Glannau Dyfrdwy
10 Rhagfyr 2026
Mae’r digwyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 11, 12 a 13 ac yn y coleg sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd a llwybrau astudio ym maes technoleg.
Ysgolion: cymerwch ran
Os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n awyddus i ddarganfod i ble y gallai technoleg eu harwain, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni.
Mae Tech Pathways yn rhad ac am ddim, a gall ysgolion ddod â grwpiau o ddysgwyr cymwys i fwynhau’r profiad gyda’i gilydd.
Ar gyfer digwyddiad De Cymru, mae gwefan y digwyddiad bellach yn fyw, gan roi cyfle i ysgolion a dysgwyr archwilio beth sydd ar y gweill a dechrau cynllunio eu diwrnod. Bydd angen i athrawon a dysgwyr sy’n mynychu greu cyfrif a bwcio eu gweithdai ymlaen llaw.