
Mae CyberFirst Wales ac Ymestyn yn Ehangach wedi lansio partneriaeth newydd i helpu mwy o bobl ifanc i archwilio cyfleoedd mewn technoleg, seiberddiogelwch a gyrfaoedd digidol. Bydd y fenter yn cysylltu dysgwyr â chyflogwyr, modelau rôl a phrofiadau yn y byd go iawn, gan greu cyfleoedd newydd i fusnesau technoleg yng Nghymru gefnogi talent y dyfodol.
Mae CyberFirst Wales ac Ymestyn yn Ehangach wedi lansio partneriaeth newydd i ehangu mynediad at gyfleoedd technoleg i ddysgwyr ledled Cymru.
Bydd y bartneriaeth yn rhoi mynediad am ddim i ysgolion cymwys Ymestyn yn Ehangach at Fframwaith Ymgysylltu CyberFirst, heb fod angen iddynt feddu ar Wobr Ysgol neu Goleg CyberFirst.
Mae Ymestyn yn Ehangach yn bartneriaeth ledled Cymru o brifysgolion, colegau ac ysgolion sy’n gweithio i wella symudedd cymdeithasol ac ehangu mynediad at addysg uwch a sgiliau lefel uwch. Mae’n cefnogi dysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch ar hyn o bryd, gan eu helpu i archwilio a gwireddu eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Ysbrydoli Dysgwyr o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13
Bydd ysgolion yn gallu dewis o amrywiaeth hyblyg o gyfleoedd CyberFirst sy’n cwmpasu Blynyddoedd 7 i 13. Mae’r rhain yn cynnwys heriau rhyngweithiol, gweithgareddau cyfoethogi’r cwricwlwm dan arweiniad cyflogwyr, gweithgareddau technoleg i ferched, digwyddiadau gyrfaoedd, profiadau prifysgol, a gwybodaeth am brentisiaethau, bwrsariaethau ac interniaethau â thâl.
Mae’r gweithgareddau wedi’u cynllunio i:
- Ehangu dyheadau dysgwyr a’u hymwybyddiaeth o gyfleoedd yn y dyfodol
- Cysylltu pobl ifanc â chyflogwyr, modelau rôl a phrofiadau yn y byd go iawn
- Cynyddu ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa mewn technoleg, seiberddiogelwch a’r byd digidol
- Annog mwy o gyfranogiad ac amrywiaeth yn y sector technoleg
- Dod â dysgu cyfrifiadura a thechnoleg yn fyw
Gall ysgolion gymryd rhan cymaint neu gyn lleied ag y dymunant, gyda chymorth ychwanegol ar gael lle bo angen, gan gynnwys cyllid trafnidiaeth, costau cyflenwi a sesiynau briffio i uwch arweinwyr.
Dywedodd Chris Webb, Cyfarwyddwr Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru:
“Yn Ymestyn yn Ehangach, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad at gyfleoedd sy’n ehangu eu gorwelion ac yn datgloi eu potensial. Mae ein partneriaeth â CyberFirst yn helpu i ddileu rhwystrau ac yn agor y drws i ddyfodol cyffrous mewn technoleg, seiberddiogelwch ac arloesi digidol i ddysgwyr ledled Cymru.”
Adeiladu ar Lwyddiant
Datblygwyd y bartneriaeth yn dilyn y llwyddiant y mae CyberFirst eisoes yn ei gyflawni mewn ysgolion sy’n rhan o gymuned Ymestyn yn Ehangach.
Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi bod yn ymwneud â CyberFirst ers ei gyflwyno yng Nghymru ac mae bellach yn gweithio tuag at ei hail Wobr Aur CyberFirst. Mae cydnabyddiaeth Aur yn dangos ymrwymiad parhaus i ragoriaeth mewn addysg technoleg.
Mae’r ysgol wedi defnyddio CyberFirst i ehangu dyheadau dysgwyr ac annog mwy o bobl ifanc i ystyried cyfrifiadura fel llwybr at gyfleoedd cyffrous ar draws amrywiaeth eang o yrfaoedd gwerth chweil. Drwy ymgysylltu â’r rhaglen, mae’r ysgol wedi cynyddu’n gyson nifer ac amrywiaeth y dysgwyr sy’n dewis astudio Cyfrifiadura o flwyddyn i flwyddyn.
“Mae rhaglen CyberFirst wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth godi dyheadau ac ehangu cyfleoedd i’n dysgwyr. Drwy ymgysylltu â diwydiant, addysg uwch a phrofiadau seiber yn y byd go iawn, gall ein disgyblion weld llwybrau clir at yrfaoedd gwerth uchel ac astudio pellach. Mae’r fframwaith gwobrau wedi ein helpu i gryfhau’r ddarpariaeth Gyfrifiadura, cynyddu cyfranogiad a sicrhau bod pob dysgwr, waeth beth fo’i gefndir, yn gallu cael mynediad at gyfleoedd sy’n cefnogi ei uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.”
Larissa Thomas Davies, Athrawes Gyfrifiadura – Cymuned Ddysgu Abertyleri
Cyfle i Gyflogwyr Gefnogi Talent Technoleg y Dyfodol
Mae’r bartneriaeth hefyd yn creu cyfle newydd i gyflogwyr technoleg gael effaith barhaol mewn cymunedau yng Nghymru drwy ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes technoleg a’u hysbrydoli.
Gall busnesau technoleg sydd wedi’u lleoli yng Nghymru bellach ddod yn Bartner Dyfodol Cynhwysol CyberFirst Wales, gan gefnogi ysgolion Ymestyn yn Ehangach drwy fodelau rôl, cipolwg ar y gweithle, gweithgareddau cwricwlwm ac ymgysylltu’n uniongyrchol â dysgwyr.
Drwy rannu arbenigedd a phrofiadau, gall cyflogwyr helpu pobl ifanc i ddeall yn well y cyfleoedd sydd ar gael yn y sectorau seiber a thechnoleg, gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu amrywiol a medrus ar gyfer y dyfodol.
I gwmnïau technoleg sy’n ceisio cynyddu eu gwerth cymdeithasol i’r eithaf, cyfrannu at fwy o gynhwysiant a helpu i ddatblygu talent y dyfodol yng Nghymru, mae’r bartneriaeth hon yn cynnig ffordd ymarferol o greu effaith fesuradwy.
Cymryd Rhan
Dylai ysgolion cymwys siarad â’u cyswllt yn Ymestyn yn Ehangach, a fydd yn eu cysylltu â thîm CyberFirst Wales i archwilio’r cyfleoedd sy’n diwallu anghenion a diddordebau eu dysgwyr orau.
Gall cyflogwyr technoleg sydd â diddordeb mewn dod yn Bartner Dyfodol Cynhwysol CyberFirst anfon e-bost at [email protected] i drafod sut y gallai eu sefydliad gefnogi’r bartneriaeth.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn gallu archwilio, profi a dilyn dyfodol mewn technoleg.
———————————————–