Cystadleuaeth y Merched
Diweddariad Pwysig ar gyfer 2026
Bellach, caiff Cystadleuaeth Merched CyberFirst ei hadnabod yn genedlaethol fel Cystadleuaeth Merched TechFirst.
Er y byddwch yn gweld brandio newydd TechFirst ar ddeunyddiau’r gystadleuaeth ledled y DU, bydd ysgolion a cholegau yng Nghymru yn parhau i gael eu cefnogi gan dîm CyberFirst Cymru. Os ydych wedi’ch lleoli yng Nghymru, dylid parhau i gyfeirio pob ymholiad, cais am gymorth a gohebiaeth atom ni’n uniongyrchol. Rydym yma i’ch helpu i gofrestru, ateb eich cwestiynau a chefnogi eich dysgwyr drwy gydol y gystadleuaeth.
Beth yw’r Gystadleuaeth?
Bob hydref, mae cannoedd o ysgolion ledled y DU yn cofrestru timau o ferched Blwyddyn 8 i gymryd rhan yng Cystadleuaeth Merched TechFirst – her hwyliog a rhad ac am ddim sydd wedi’i chynllunio i ennyn diddordeb mewn technoleg ac annog mwy o ferched i archwilio gyrfaoedd ym maes cyfrifiadura, seiber a thechnoleg ddigidol.
Yng Nghymru, mae’r gystadleuaeth yn parhau i gael ei chyflwyno a’i chefnogi gan CyberFirst Cymru, gan sicrhau bod ysgolion, athrawon a dysgwyr yn cael cymorth lleol bob cam o’r ffordd. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar athrawon na dysgwyr, a gall ysgolion gofrestru cymaint o dimau ag y dymunant. Gellir cynnal y gystadleuaeth yn ystod gwersi neu fel gweithgaredd clwb i gyd-fynd ag amserlen yr ysgol.


Beth allwch chi ei ennill?
Dyddiadau Allweddol
Sut ydw i’n cofrestru?
Pan fydd y gystadleuaeth yn agor bob blwyddyn, gallwch gofrestru’n uniongyrchol ar wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Eisiau rhagor o wybodaeth yn gyntaf? Anfonwch e-bost at y tîm ar [email protected] neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael manylion am sesiynau gwybodaeth i athrawon.