Ysgolion a Cholegau
Beth yw’r Wobr CyberFirst?
Mae’r Wobr CyberFirst yn rhoi cydnabyddiaeth i ysgolion a cholegau fel arweinwyr cenedlaethol mewn addysg Seiber a Chyfrifiadura – cydnabyddiaeth a ategir gan y llywodraeth.
Bydd sefydliadau o’r fath yn ymuno â rhwydwaith o ysgogwyr newid, gan gael mynediad at bartneriaethau gyda’r byd diwydiant, digwyddiadau, gweithgareddau ac adnoddau – a gyflwynir i bob grŵp blwyddyn trwy gyfrwng Rhwydwaith Ymgysylltu CyberFirst Cymru.

Pam ddylwn i wneud cais am Wobr CyberFirst?
Yn ogystal â chael cydnabyddiaeth gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, bydd y wobr hefyd yn cynnig y canlynol:
Y Fframwaith Ymgysylltu
Mae’r fframwaith ymgysylltu’n canolbwyntio ar gyflwyno ymyriadau ar yr adeg iawn o’r flwyddyn, gyda’r grŵp iawn o ddysgwyr, er mwyn cynyddu diddordeb mewn technoleg seiber a chyfrifiadura. Isod, nodir y gweithgareddau a’r digwyddiadau a dargedir at wahanol grwpiau blwyddyn:
Fforenseg Ddigidol
- Disgrifiad
Gwisgwch eich siwtiau diogelu a rhowch gynnig ar fod yn arbenigwr fforenseg ddigidol wrth ein helpu i ddatrys dirgelwch y bar siocled coll. - Fformat
Training for teachers and an activity box packed with digital devices and investigation tools for learners to explore.
Enigma
- Disgrifiad
Camwch i Barc Bletchley yr Ail Ryfel Byd er mwyn helpu i ddatrys y cod Enigma ac achub llongau rhyfel yn y profiad trawsgwricwlaidd a hynod ddiddorol hwn lle cewch gyfle i ddatrys codau. - Fformat
Ystafell drochi dros dro oddi mewn i ystafell, yn llawn offer sy’n atgoffa rhywun o un o gytiau Parc Bletchley yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Rhagflas ar Gystadleuaeth y Merched
- Disgrifiad
Casglwch eich merched blwyddyn 8 ynghyd ar gyfer sesiwn gyffrous lle ceir posau i’w datrys, er mwyn eu paratoi ar gyfer y gystadleuaeth genedlaethol fawreddog. - Fformat
Gweithgaredd awr o hyd a gyflwynir gan fodel rôl benywaidd.
Arloeswyr
- Disgrifiad
Dewch i roi cynnig ar fod yn Haciwr Moesegol, archwiliwch AI (Deallusrwydd Artiffisial) a newyddion ffug, a defnyddiwch eich sgiliau datrys codau a’ch sgiliau ieithyddol i ddod o hyd i’r gwirionedd.
- Fformat
Gwersi rhyngweithiol a fydd yn cyflwyno meysydd technoleg newydd a chyffrous, gan annog y dysgwyr i ddilyn cwrs TGAU mewn Cyfrifiadureg.
Anturiaethwyr
- Disgrifiad
Camwch i’r byd dadansoddi chwaraeon a dewiswch dîm Quidditch gorau’r byd, gweithiwch mewn tîm a defnyddiwch resymeg i agor sêff, ac ewch ati i greu eich byd VR (Realiti Rhithwir) eich hun. - Fformat
Gwersi rhyngweithiol a fydd yn cyflwyno meysydd technoleg newydd a chyffrous, gan annog y dysgwyr i ddilyn cwrs TGAU mewn Cyfrifiadureg,
Grymuso Merched i Ymhél â Thechnoleg Seiber
- Disgrifiad
Dewch i gyfarfod â’r menywod chwyldroadol sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddoniau technoleg trwy gyfrwng cyfleoedd rhwydweithio, gweithgareddau a gweithdai ysbrydoledig. - Fformat
Digwyddiad a fydd yn para diwrnod cyfan ac a fydd yn cael ei arwain gan y byd diwydiant ar gyfer merched blwyddyn 10 sydd â diddordeb mewn technoleg.
Cyfoethogi’r Cwricwlwm
- Disgrifiad
Dysgwch gan yr arbenigwyr wrth i’ch Partner Diwydiant CyberFirst ddarparu gweithgareddau pwrpasol a fydd yn dod â’ch cwricwlwm yn fyw. - Fformat
Bydd y sesiynau’n cyd-fynd â’ch cwricwlwm, o sgyrsiau a gweithdai a gaiff eu harwain gan y byd diwydiant, i ymweliadau â chwmnïau technoleg.
Llwybrau Seiber
- Disgrifiad
Chwalwch fythau’r byd technoleg a seiber trwy ddarganfod meysydd gwybodaeth gwahanol, cyfarfod â’r arbenigwyr a helpu’r dysgwyr i ganfod gyrfaoedd eu breuddwydion. - Fformat
Digwyddiad a fydd yn para diwrnod cyfan ac a fydd yn cael ei arwain gan y byd diwydiant ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cymwysterau Cyfrifiadura neu sydd wedi dangos diddordeb mewn dilyn gyrfaoedd technoleg.
Llwybrau Seiber
- Disgrifiad
Chwalwch fythau’r byd technoleg a seiber trwy ddarganfod meysydd gwybodaeth gwahanol, cyfarfod â’r arbenigwyr a helpu’r dysgwyr i ganfod gyrfaoedd eu breuddwydion. - Fformat
Digwyddiad a fydd yn para diwrnod cyfan ac a fydd yn cael ei arwain gan y byd diwydiant ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cymwysterau Cyfrifiadura neu sydd wedi dangos diddordeb mewn dilyn gyrfaoedd technoleg.
Cyber Advanced
- Disgrifiad
Cymerwch y camau nesaf tuag at yrfa mewn seiber drwy ddysgu gan y gorau a datrys rhai o’r problemau byd go iawn mwyaf heriol. - Fformat
5 diwrnod o weithdai yn ystod gwyliau ysgol, a gyflwynir mewn safleoedd mewn partneriaeth â lleoliadau partner ledled Cymru.
Cyber Aspire
- Disgrifiad
Wedi’i dargedu’n benodol at grwpiau sy’n cael eu tanryngu, gan gynnwys merched a’r rhai o gefndiroedd economaidd isel, gweithgaredd “ystafell ddianc rhithwir” wedi’i gosod yn erbyn rhai o’r bygythiadau seiber mwyaf heriol a chyfoes. - Fformat
3 diwrnod yng nghanol mis Tachwedd a gyflwynir ar-lein.
Sgwrs: Y Cynllun Bwrsari a Gyrfaoedd
- Disgrifiad
Dysgwch am gynllun bwrsari unigryw sy’n cynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr a chyfleoedd a ariennir mewn prifysgolion. - Fformat
Sesiwn awr o hyd a gyflwynir i fyfyrwyr sydd wedi dangos diddordeb mewn dilyn gyrfaoedd yn ymwneud â Thechnoleg Seiber.
Gyda pha gwmni y gallwn weithio mewn partneriaeth?
O gwmnïau technoleg byd-eang i adrannau’r llywodraeth a busnesau bach a chanolig lleol sy’n ymhél â thechnoleg seiber – mae gan bob partner dimau yng Nghymru ac maent yn barod i gydweithio’n agos gyda’ch ysgol. Os oes gennych gwmni mewn golwg yn barod – gallwn weithio ar hyn gyda chi.
A yw fy ysgol neu fy ngholeg yn gymwys i gael gwobr CyberFirst?
Nid perffeithrwydd sy’n bwysig – ond ymrwymo i wella eich addysg yn y maes Cyfrifiadura a Thechnoleg Seiber dros amser, gyda’n cymorth ni. Mae tair lefel yn perthyn i’r wobr (sef Efydd, Arian ac Aur), felly gallwch ddechrau o’ch man cychwyn presennol a datblygu.

Wobr Aur
Gofynion Isafswm:
- Rydych eisoes yn cyflwyno 150+ munud (neu dair gwers) o Gyfrifiadura bob pythefnos ym Mynyddoedd 7 ac 8.
- Rydych eisoes yn cynnig o leiaf 1 cymhwyster Cyfrifiadura ar gyfer pob Cyfnod Allweddol a addysgir.

Wobr Arian
Gofynion Isafswm:
- Rydych eisoes yn cyflwyno 100+ munud (neu ddwy wers) o Gyfrifiadura bob pythefnos ym Mlynyddoedd 7 ac 8.
- Rydych eisoes yn cynnig o leiaf 1 cymhwyster Cyfrifiadura ar gyfer pob Cyfnod Allweddol a addysgir.

Wobr Efydd
Gofynion Isafswm:
- Cynllun a ategir gan y Tîm Uwch-reolwyr gogyfer cyflwyno o leiaf 100 munud (neu dwy wers) o Gyfrifiadura bob pythefnos ym Mlynyddoedd 7 ac 8.
- Cynllun a ategir gan y Tîm Uwch-reolwyr gogyfer cyflwyno o leiaf 1 cymhwyster Cyfrifiadura ar gyfer pob Cyfnod Allweddol a addysgir.
Gofynion Sylfaenol ar gyfer Colegau: Rhaid ichi gynnig o leiaf un cymhwyster Cyfrifiadura eisoes.
Sut alla’ i wneud cais am wobr CyberFirst?
Bydd angen ichi lenwi cais – byddwn yn eich cynorthwyo trwy’r holl broses gydag adolygiadau drafft ac arweiniad gam wrth gam. Ni cheir dyddiad cau penodedig, felly gallwch gyflwyno eich cais pa bryd bynnag y byddwch yn teimlo’n hyderus i wneud hynny!
Cysylltwch â [email protected] i roi pethau ar droed
Ysgolion a Cholegau CyberFirst yng Nghymru
Wobr Aur
- Abertillery Learning Community
- Bridgend College
- Cardiff And Vale College
- Coleg Cambria
- Coleg Gwent
- Gower College Swansea
- Gowerton Comprehensive School
- Merthyr Tydfil College
- Pencoed Comprehensive School
- Porthcawl Comprehensive School
- St Alban’s R.C. High School
- St Joseph’s R.C.High School
Wobr Arian
- Archbishop McGrath Catholic High School
- Castell Alun High School
- Corpus Christi Catholic High School
- Cyfarthfa High School
- St John’s College
- Penyrheol Comprehensive
- Radyr
- Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Wobr Efydd
- Rougemont
- St. Joseph’s Catholic and Anglican Secondary School
- Ysgol Brynhyfred