Skip to main content

Beth yw CyberFirst?

Crëwyd CyberFirst gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Ei nod yw canfod a meithrin y genhedlaeth nesaf o ddoniau seiber yn y DU.

Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd rhad ac am ddim i ddysgwyr ac addysgwyr i ategu hyn – o gystadlaethau ac adnoddau ar-lein, i wobrau mawreddog ar gyfer ysgolion a cholegau, ynghyd â chynllun bwrsari i brifysgolion sy’n cynnig cymorth ariannol a hyfforddiant seiber â thâl.

Students solving cube puzzle

Fe’i cyflwynir ledled Cymru

Yng Nghymru, cyflwynir CyberFirst gan Brifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Choleg Cambria. Hefyd, mae’r rhaglen yng Nghymru wedi cael cefnogaeth strategol gan Technocamps, y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cynorthwyo dysgwyr Blwyddyn 7 i Flwyddyn 13, gan weithio’n agos gydag ysgolion a cholegau ledled y wlad

Seibergadernid

Hefyd, mae CyberFirst yn helpu ysgolion a cholegau perthnasol i wella’u seibergadernid – gan gynnig arweiniad ar seilwaith, polisïau a seiberhylendid da.

Sut y caiff ei ariannu

Caiff CyberFirst ei ariannu gan Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU trwy gyfrwng y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Rydym hefyd yn croesawu nawdd ychwanegol – boed hynny ar lefel digwyddiadau neu brosiectau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r genhadaeth, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost i’r cyfeiriad [email protected].

Cymerwch ran

P’un a ydych chi’n ysgol, yn fusnes neu’n unigolyn – mae yna rôl i chi wrth lunio dyfodol seiberddiogelwch.

University of South Wales logo
Wedi’i gyflwyno gan:
University of South Wales
Mewn partneriaeth â:
Cefnogir gan: