Adnoddau
Pa adnoddau eraill sydd ar gael?
Mae CyberFirst yn cynnig amrywiaeth o adnoddau cyffrous, rhad ac am ddim, i helpu ysgolion a myfyrwyr i dreiddio i fyd seiberddiogelwch. Pa un a ydych yn addysgu yn yr ystafell ddosbarth neu’n archwilio gartref, bydd yr adnoddau rhyngweithiol hyn yn helpu i sicrhau bod dysgu am sgiliau digidol a diogelwch ar-lein yn brofiad llawn hwyl a hygyrch.
Archwiliwch y casgliad llawn yma.: Courses and Resources – NCSC.gov.uk

Rhai o’n ffefrynnau:
CyberSprinters
7–11 oed
Gêm ryngweithiol gyflym a chyfres o weithgareddau sy’n addysgu’r pethau sylfaenol ynglŷn â diogelwch ar-lein mewn ffordd hwyliog sy’n addas i’r oedran.
CyberNavigators
11–14 oed
Dysgu rhyngweithiol sy’n adeiladu ar wybodaeth seiber trwy gyfrwng gemau, fideos a chwisiau sydd wedi’u teilwra ar gyfer plant yn eu harddegau cynnar.
CyberExplorers
11–14 oed
Platfform ar-lein rhad ac am ddim sy’n dod â seiberddiogelwch yn fyw trwy gyfrwng tasgau diddorol, cymeriadau a senarios o’r byd go iawn – adnodd perffaith i’w ddefnyddio mewn ysgolion, mewn clybiau ar ôl ysgol neu gartref.