Llysgenhadon
Beth yw Llysgenhadon CyberFirst?
Gwirfoddolwyr o’r byd technoleg a’r byd academaidd sy’n cefnogi ein cenhadaeth i feithrin sgiliau seiber yng Nghymru – dyna yw llysgenhadon CyberFirst. Pa un a allwch sbario ychydig o oriau bob blwyddyn neu gymryd rhan mewn calendr sy’n llawn digwyddiadau, mae yna le i chi yn ein cymuned CyberFirst.

Beth yn union y mae bod yn llysgennad CyberFirst yn ei olygu?
Mae ein llysgenhadon yn rhoi cymaint neu gyn lleied o amser ag y gallant – o awr neu ddwy y flwyddyn i gyfraniad rheolaidd.
Gall y cymorth a roddwch gynnwys y canlynol:

A ydw i’n gymwys i fod yn llysgennad CyberFirst yng Nghymru?
Er mwyn bod yn Llysgennad CyberFirst yng Nghymru:
- Rhaid ichi fod wedi eich lleoli yn y DU (yng Nghymru yn ddelfrydol)
- Rhaid ichi weithio neu astudio mewn maes sy’n gysylltiedig â thechnoleg
- Rhaid ichi fod â diddordeb proffesiynol mewn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau seiber
Sut mae gwneud cais?
Diddordeb? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Anfonwch e-bost i’r cyfeiriad [email protected] ac yna fe wnawn ni anfon rhagor o wybodaeth a threfnu sgwrs sydyn i ddysgu rhagor amdanoch chi a’ch diddordeb yn y rhaglen.