Busnesau
Beth yw Partneriaid Diwydiant?
Caiff Ysgolion a Cholegau CyberFirst eu cydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol fel arweinwyr mewn addysg Seiber a Chyfrifiadura. Yng Nghymru, trefnir eu bod yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau technoleg blaengar sy’n helpu i ddod â’r pwnc yn fyw.
Trwy weithio mewn partneriaeth ag ysgol, byddwch yn helpu i gynnig profiadau ymarferol, byddwch yn cyflwyno’r dysgwyr i fodelau rôl a byddwch yn dangos sut brofiad yw gweithio mewn gyrfa seiber.

Pam y dylech ddod yn Bartner Diwydiant CyberFirst?
Beth sy’n gysylltiedig â hyn?
Bydd busnesau’n ymrwymo i gyn lleied â 5 diwrnod o gymorth bob blwyddyn – cymorth y gellir ei rannu ar draws y tîm. Bydd y partneriaethau’n dechrau trwy gynnal cyfarfod rhagarweiniol yn yr ysgol, ac yna cynhelir yr ymyriadau strategol a nodir yn y fframwaith ymgysylltu.
Partneriaid cyfredol yn y byd diwydiant








Sut i ddod yn bartner diwydiant?
Os oes gennych ddiddordeb mewn partneru ag ysgol yng Nghymru byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. E-bostiwch w[email protected] a bydd aelod o’r tîm mewn cysylltiad. Rhaid i fusnesau fod wedi’u cofrestru yn y DU.