Y Bwrsari
Beth yw’r bwrsari?
Mae Bwrsari CyberFirst yn cynnig £4,000 o gymorth ariannol y flwyddyn i israddedigion, ynghyd â phrofiadau gwaith â thâl mewn seiberddiogelwch bob haf – cyfle gwych i’w hyrwyddo gerbron myfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg sy’n awyddus i ddechrau gyrfa mewn technoleg seiber.
Bydd y ceisiadau’n agor bob hydref – peidiwch â cholli’r cyfle i rannu hyn gyda’ch dysgwyr!

Angen help i hyrwyddo?
Mae tîm CyberFirst Cymru yn cynnig rhith-sgyrsiau rhad ac am ddim, 20 munud o hyd, i unrhyw ysgol neu goleg yng Nghymru. Gwych ar gyfer gwersi neu wasanaethau ysgol!
Anfonwch e-bost atom ac fe wnawn ni drefnu popeth: [email protected].